Y Grŵp Trawsbleidiol ar Nychdod Cyhyrol a Chyflyrau Niwrogyhyrol - Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Dydd Mercher 16 Gorffennaf 2014

Blaenoriaethau Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru ar gyfer datblygu gwasanaethau niwrogyhyrol yng Nghymru

 

1.    Cafwyd cyflwyniad i'r sesiwn gan Jonathan Kingsley o'r Ymgyrch Nychdod Cyhyrol, a diolchodd ar ran y Grŵp Trawsbleidiol i Dr Andrew Goodall, sydd wedi cael ei benodi'n Brif Weithredwr GIG Cymru, am ei waith caled fel Cadeirydd Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru. Ein blaenoriaethau o hyd yw parhau i wthio am y buddsoddiad £650,000 a sicrhau bod Cadeirydd newydd yn cael ei benodi ar gyfer Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru cyn gynted â phosibl. Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd yn pwysleisio bod angen llenwi'r swydd.

2.    Aeth Jonathan ymlaen i roi'r Wybodaeth Ddiweddaraf gan yr Ysgrifenyddiaeth ar ran yr Ymgyrch Nychdod Cyhyrol, gan sôn am waith yr elusen i sicrhau mynediad cyflymach at driniaethau posibl ar gyfer cyflyrau nychdod cyhyrau yng Nghymru. Soniodd hefyd am adroddiad y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar gyfer Nychdod Cyhyrol ynghylch sgrinio babanod newydd-anedig ar gyfer nychdod cyhyrol Duchenne.

3.    Trafododd y grŵp y cyllid ar gyfer cyfarpar sydd wedi'i sicrhau ar gyfer cleifion niwrogyhyrol yng Nghymru. Cododd Ray Thomas bryderon fod Ymgynghorwyr Gofal yn ei chael yn anodd i gaffael y cyfarpar hwn ac na fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi cytuno i dalu costau cynnal a chadw'r offer. Mae Ray yn cwrdd ag Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i drafod y mater. Y gobaith yw, am fod Gogledd Cymru a Chaerdydd a'r Fro wedi cytuno i dalu'r costau, y bydd Abertawe Bro Morgannwg yn gwneud yr un peth. Nododd Rachel Salmon bryder hefyd fod canfod y bobl a fyddai'n elwa o'r cyllid ar gyfer y cyfarpar yn cymryd amser, a gan mai cyllid am un flwyddyn ariannol yn unig ydyw, efallai y daw i ben ym mis Ebrill 2015. Cytunodd y grŵp y byddai'n flaenoriaeth i Gadeirydd nesaf y Rhwydwaith sicrhau bod unrhyw gyllid sydd heb ei wario yn cael ei neilltuo ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

4.    Nododd Dr Jenni Thomas fod y swydd ymgynghorydd dros dro, sef swydd Dr Ellie Marsh ar hyn o bryd, wedi'i hymestyn tan ddiwedd y flwyddyn. Y gobaith yw y gellir sicrhau cyllid i'w gwneud yn swydd barhaol.

5.    Nododd Dr Mark Rogers bryder am amser ymgynghorwyr. Ers i Dr Fenton-Mai ymddeol, mae'r galw wedi cynyddu. Mae cleifion y mae angen eu gweld bob blwyddyn yn awr yn aros am flwyddyn a hanner ac mae perygl y gallai'r amser aros gynyddu eto. Cytunodd y grŵp fod angen mynd i'r afael ar frys gyda'r diffyg capasiti ymgynghorol.

6.    Amlygwyd diffyg capasiti mewn mannau eraill yn y gwasanaeth. Dywedodd Rachel Salmon bod ei llwyth achosion hi a Sarah Harris yn hynod uchel. Problem ychwanegol, am eu bod yn cael eu cyflogi gan Fyrddau Iechyd gwahanol, yw na allant wneud gwaith dros ei gilydd pan fo angen. Mae llwyth achosion Sarah Clements hefyd yn rhy drwm ac mae diffyg capasiti yn y gwasanaeth i fynd i'r afael â'r galw.

7.    Cytunodd y grŵp i lunio astudiaethau achos cleifion er mwyn cefnogi'r angen i feithrin gallu yn y gwasanaeth. Bydd gweithwyr iechyd proffesiynol hefyd yn cofnodi eu llwyth achosion, drwy archwiliad os yw'n briodol.

8.    Mynegodd Ray Thomas a Margaret Ware bryderon am amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau cadeiriau olwyn. Esboniodd Dr Jenni Thomas y pwysau sydd ar y gwasanaeth a'r ffaith bod anghenion cymhleth gan gleifion sydd angen cadeiriau olwyn. Fodd bynnag, roedd yn cydnabod fod amseroedd aros yn rhy hir a bod angen gwneud gwelliannau. Mae gwaith yn mynd rhagddo i symleiddio'r broses a sicrhau bod cleifion yn cael cadair olwyn addas cyn gynted â phosibl. Dywedodd Jonathan Kingsley fod rhai pobl sydd â chyflyrau niwrogyhyrol yn dal i gael cynnig cadeiriau olwyn anaddas, a bod angen i weithwyr proffesiynol fod yn sicr ynghylch y cyflyrau.

9.    Rhoddodd Gareth Llewellyn y wybodaeth ddiweddaraf am Rwydwaith Niwrogyhyrol Cymru. Nododd y byddai'r Rhwydwaith yn parhau, ond ei fod yn wan heb Gadeirydd. Mae strwythur y Rhwydwaith yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, bydd Gareth yn rhoi diweddariad am yr adolygiad wrth iddo fynd rhagddo. Fodd bynnag, gobeithir yn fawr iawn na fydd yr adolygiad yn peri bygythiad i'r Rhwydwaith.

10.  Cytunodd pawb a oedd yn bresennol i gyflwyno'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ynghyd â'r adroddiad blynyddol.

11.  Daeth Bethan Jenkins AC â'r cyfarfod i ben am 7.30 gan ddiolch i bawb am ddod.